Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1022

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

aist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di.

17:7 Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi:

17:8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i.

17:9 Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.

17:10 A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.

17:11 Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis minnau.

17:12 Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.

17:13 Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.

17:14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd.

17:15 Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti, eu cadw hwynt rhag y drwg.

17:16 O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd.

17:17 Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.

17:18 Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd.

17:19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi, eu sancteiddio yn y gwirionedd.

17:20 Ac nid wyf.yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd.

17:21 Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i.

17:22 A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un:

17:23 Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi.

17:24 Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd.

17:25 Y Tad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi: eithr mi a’th adnabûm, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i.

17:26 Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysais: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi,a minnau ynddynt hwy.


PENNOD 18

18:1 Wedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion.

18:2 A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno.

18:3 Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.

18:4 Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?

18:5 Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt.

18:6 Cyn gynted gan hynny. ag y dywedodd efe wrthynt, myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.

18:7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth.