Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1024

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti?

18:36 Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.

18:37 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin. wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er rnwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i.

18:38 Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef.

18:39 Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?

18:40 Yna y lefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A’r Barabbas hwnnw oedd leidr.


PENNOD 19

19:1 Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef.

19:2 A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano;

19:3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau.

19:4 Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.

19:5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn.

19:6 Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.

19:7 Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.

19:8 A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy;

19:9 Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo.

19:10 Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd?

19:11 Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.

19:12 O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun y frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar.

19:13 Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.

19:14 A darpar-ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin.

19:15 Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar.

19:16 Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith.

19:17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:

19:18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.

19:19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ys-