Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1025

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

grifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.

19:20 Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin.

19:21 Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.

19:22 Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.

19:23 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.

19:24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn.

19:25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen.

19:26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.

19:27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.

19:28 Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.

19:29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef.

19:30 Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.

19:31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar-ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.

19:32 Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef.

19:33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef.

19:34 Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.

19:35 A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth; ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi.

19:36 Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono.

19:37 A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.

19:38 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu.

19:39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys.

19:40 Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.

19:41 Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.

19:42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.


PENNOD 20

20:1 Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd.

20:2 Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr