Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Prawfddarllenwyd y dudalen hon


iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasnt i fynu o wlad yr Aipht.

9 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wàr-galed ydynt.

10 Am hynny yn awr gâd i mi lonydd, fel yr ennyno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr.

11 A Moses a ymbiliodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr ennyna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?

12 Paham y caiff yr Aiphtiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi with angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl.

13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.

14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnai i’w bobl.

15 ¶ A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du, hwy a ysgrifenasid o bob tu.

16 A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau.

17 A phan glywodd Josua swn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae swn rhyfel yn y gwersyll.

18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli y maes; ond swn canu a glywaf fi.

19 ¶ A bu, wedi dyfod o hono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac ennynodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt îs law y mynydd.

20 Ac efe a gymmerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel.

21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?

22 A dywedodd Aaron, Nac ennyned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.

23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.

24 A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

25 ¶ A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ym mysg eu gelynion;)

26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du yr Arglwydd? deued attaf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant atto ef.

27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cynniweiriwch o borth i borth trwy y gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymmydog.

28 A meibion Lefi a wnaethant yn ol gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.

29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddyw i’r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddyw i chwi fendith.

30 ¶ A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a âf i fynu at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymmod dros eich pechod chwi.

31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, attolwg, allan o’th lyfr a ysgrifenaist.

33 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr.