34 Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.
35 A’r Arglwydd a darawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.
Pennod XXXIII.
1 Yr Arglwydd yn gwrthod myned gyd â’r bobl, fel yr addawsai. 4 Y bobl yn galaru am hynny. 7 Symmudo y tabernacl allan o’r gwersyll. 9 Yr Arglwydd yn llefaru wrth Moses wyneb yn wyneg. 12, 18 Moses yn deisyfu cael gweled gogoniant Duw.
A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fynu oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi.
2 A mi a anfonaf angel o’th flaen di, ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Phereziad, yr Hefiad, a’r Jebusiad:
3 I wlad yn llifeirio o laeth â mel: o herwydd nid âf fi i fynu yn dy blith; oblegid pobl wàr-galed wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.
4 ¶ A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg am dano.
5 Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, Pobl wàr-galed ydych chwi; yn ddisymmwth y deuaf i fynu i’th ganol di, ac y’th ddifethaf; am hynny yn awr dïosg dy harddwisg oddi am danat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti.
6 A meibion Israel a ddïosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb.
7 A Moses a gymmerodd y babell, ac a’i lledodd o’r tu allan i’r gwersyll, ym mhell oddi wrth y gwersyll; ac a’i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr Arglwydd, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o’r tu allan i’r gwersyll.
8 A phan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ol Moses, nes ei ddyfod i’r babell.
9 A phan aeth Moses i’r babell, y disgynnodd colofn y cwmmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses.
10 A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.
11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gwr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelod i’r gwersyll: ond y llangc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.
12 ¶ A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwel, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fynu; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyd â mi: a thi a ddywedaist. Mi a’th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.
13 Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, attolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.
14 Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyd â thi, a rhoddaf orphwysdra i ti.
15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyd â ni, nac arwain ni i fynu oddi yma.
16 Canys pa fodd y gwyddir yma gael o honof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned o honot ti gyd â ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
17 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw.
18 Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, attolwg, dy ogoniant.
19 Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhâf wrth yr hwn y cymmerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
20 Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni’m gwel dyn, a byw.
21 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.
22 A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio.
23 Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.