Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1106

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

13 Gan eu bod, trwy brofiad y wein¬idogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;

14 A thrwy eu gweddi hwythau dros-O’eh chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.

15 Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.


PENNOD 10

1 A MYFI Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn brescnnol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn by arnoch.

2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy a’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd.

3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd:

4 (Canys arfau ein milwriaeth ni hid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Ddirtv i fwrw cestyll i’r llawr;)

5 Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;

6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.

7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os yrnddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.

8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid:

9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.

10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eitht presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. "

11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.

12 Canys nid ym ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt cu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall. -

13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddy4 hyd atoch chwi hefyd.

14 Canys nid ydym, megis rhai neb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestya allan tu hwnt i’n mesur; canys h»yd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist:

15 Nid gan fostio hyd at bethau allan. o’n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth,

16 I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes.

17 Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.


PENNOD 11

1 NA ehyd-ddygech a myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch a myfi.

2 Canys eiddigus wyf trosoch ag eidd" igedd duwiol: canys mi a’ch dyweddiais chwi i un gŵr, i’ch