Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1107

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist.

3 Ond y mae amaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.

4 Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef.

5 Canys yr ydwyf yn meddwl na bum i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf.

6 Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim.

7 A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad?

8 Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i’ch gwasanaethu

9 A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac aii a ymgadwaf.

10 Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwiedydd Achaia.

11 Paham? ai am nad wyf yn eich cam chwi? Duw a’i gw yr.

12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyll-ysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.

13 Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist.

14 Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.

15 Gan hynny nid mawr yw, er ym¬rithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.

16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol: os amgen, eto derbyn-iwch fi fel ffol, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig.

17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus.

18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.

19 Canys yr ydych yn goddef fryliaid yn llawen, gan fod rich hunain yn syn-hwyrol.

20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, OS bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb.

21 Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hyf, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) by wyf finnau hefyd.

22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau.

23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? {yr ydwyf yn dywedyd yn ffol,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethar yn fynych.

24 Gan yr Iddewon bumwaith y detbyniais ddeugain gwialennod ond un.

25 Tair gwaith y’m curwyd a gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor;

26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau:

27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni.

28 Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi.

29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau