Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1108

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi?

30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid.

31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a w^yr nad wyf yn dywedyd celwydd.

32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:

33 A thrwy ffenestt mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef. chwi.


PENNOD 12

1 YMFFROSTIO yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd.

2 Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o’r corff, ni wn i: Duw a wyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef,

3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff ni wn i: Duw a wyr;)

4 Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd.

5 Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.

6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddafffol; canys mi a ddywedafy gwir: eithr yr wyfyn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf.

7 Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowg-rwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m ccrnodio, fel na’m tra-dyrchefid.

8 Am y peth hwn mi a atolygais i’r Ar¬glwydd dcirgwaith, ar fod iddo ymadael a mi.

9 Ac etc a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn tŷ ngwendid, fel y preswylio nerth Criht ynof fi.

10 Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.

11 Mi a euthum yn ffol wrth ymffrostio; chwychwi a’m gyrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bum i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim.

12 Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, triewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol.

13 Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na’r eglwysi eraiB, oddieithr am na bum i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam.

14 Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant.

15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich cam yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.

16 Eithr bid, ni phwysais i amoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a’ch deliais chwi trwy ddichell.

17 A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch?

18 Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?

19 Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.

20 Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddel-wyf, na’ch caffwyf yn gyfryw