Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3 A gyrrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a’i torrasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porphor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y llïan main, yn waith cywraint.

4 Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwrr y cydiwyd hi.

5 A gwregys cywraint ei ephod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o’r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

6 ¶ A hwy a weithiasant feini onix wedi eu gosod mewn boglynau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, âg enwau meibion Israel ynddynt.

7 A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

8 ¶ Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr ephod; o aur, sidan glas, porphor hefyd, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd.

9 Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hŷd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.

10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, tophaz, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.

11 A’r ail res oedd, carbuncl, saphir, ac adamant.

12 A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.

13 A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onix, a jasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynau aur yn eu lleoedd.

14 A’r meini oedd yn ol enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ol y deuddeg llwyth.

15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.

16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwrr y ddwyfronneg.

17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant y’nglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr ephod, o’r tu blaen.

19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod, o’r tu mewn.

20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr ephod, oddi tanodd tu a’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.

21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr ephod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattodid y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod, megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 ¶ Ac efe a wnaeth fantell yr ephod i gyd o sidan glas, yn wauadwaith.

23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.

24 A gwnaethant ar odrau y fantell bomgranadau, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, a llïan cyfrodedd.

25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre y fantell, o amgylch, ym mysg y pomgranadau,

26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre y fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27 ¶ A hwy a wnaethant beisiau o lïan main, o wauadwaith, i Aaron ac i’w feibion.

28 A meitr o lïan main, a chapiau hardd o lïan main, a llodrau llïan o lïan main cyfrodedd,

29 A gwregys o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 ¶ Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur, ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: Sancteiddrwydd i’r Arglwydd.

31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fynu ar y meitr, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

32 ¶ Felly y gorphennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses felly y gwnaethant.

33 ¶ Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn,