Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1121

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.

1:12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i'r efengyl,

1:13 Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall;

1:14 Ac i lawer o'r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu'r gair yn ddi-ofn.

1:15 Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da.

1:16 Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i'm rhwymau i:

1:17 A'r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y'm gosodwyd.

1:18 Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf.

1:19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist,

1:20 Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.

1:21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.

1:22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn.

1:23 Canys y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu, gan fod gennyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.

1:24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o'ch plegid chwi.

1:25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd-drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd;

1:26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o'm plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch.

1:27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl;

1:28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw.

1:29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef;

1:30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.


PENNOD 2

2:1 Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau,

2:2 Cyflawnwch fy llawenydd; fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad gennych, yn gytun, yn synied yr un peth.

2:3 Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain.

2:4 Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd.

2:5 Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu:

2:6 Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw;

2:7 Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion:

2:8 A'i gael mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau'r groes.

2:9 Oherwydd paham, Duw a'i tra-