Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1122

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw;

2:10 Fel yn enw Iesu y plygai pob glin o'r nefolion, a'r daearolion, a thanddaearolion bethau;

2:11 Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

2:12 Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn.

2:13 Canys Duw yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef.

2:14 Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau;

2:15 Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;

2:16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.

2:17 Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau a chwi oll.

2:18 Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â ninnau.

2:19 Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y'm cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi.

2:20 Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi.

2:21 Canys pawb sydd yn ceisio'r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.

2:22 Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.

2:23 Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.

2:24 Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.

2:15 Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a’m cyd-weithiwr, a'm cyd-filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i'm cyfreidiau innau.

2:26 Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf.

2:27 Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch.

2:28 Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.

2:29 Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; a'r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt:

2:30 Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o'ch gwasanaeth tuag ataf fi.


PENNOD 3

3:1% Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel.

3:2 Gochelwch gŵn, gochelwch ddrwgweithwyr, gochelwch y cyd-doriad.

3:3 Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd:

3:4 Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:

3:5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrewr o'r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead;