Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1127

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.

3:14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.

3:15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.

3:16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.

3:17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.

3:18 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.

3:19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

3:20 Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.

3:21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

3:22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:

3:23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion;

3:24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu.

3:25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.


PENNOD 4

4:1 Y Meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.

4:2 Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;

4:3 Gan weddio hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:

4:4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.

4:5 Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.

4:6 Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.

4:7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cyd-was yn yr Arglwydd:

4:8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;

4:9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.

4:10 Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)

4:11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o'r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.

4:12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddiau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.

4:13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.

4:14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.

4:15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a'r eglwys sydd yn ei dŷ ef.

4:16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

4:17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi. ;

4:18 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.

At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.