Epistol Cyntaf Paul yr Apostol at y
Thessaloniaid.
PENNOD I
1:1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau,
1:3 Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tad;
1:4 Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.
1:5 Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.
1:6 A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân:
1:7 Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.
1:8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.
1:9 Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r bywiol a'r gwir Dduw;
1:10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.
PENNOD 2
2:1 Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i niewn atoch, nad ofer fu:
2:2 Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech.
2:3 Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll:
2:4 Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
2:5 Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:
2:6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.
2:7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant.
2:8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.
2:9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw.
2:10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu: