Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1130

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:1 Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.

4:2 Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r Arglwydd Iesu.

4:3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb:

4:4 Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch;

4:5 Nid mewn gwy^n trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:

4:6 Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.

4:7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.

4:8 Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.

4:9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid, i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.

4:10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy,

4:11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio a'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi,)

4:12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim.

4:13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.

4:14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.

4:15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni'r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu'r rhai a hunasant.

4:16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf:

4:17 Yna ninnau'r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.

4:18 Am hynny diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn.


PENNOD 5

5:1 Eithr am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch.

5:2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos.

5:3 Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim.

5:4 Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo'r dydd hwnnw chwi megis lleidr.

5:5 Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nos, nac o'r tywyllwch.

5:6 Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr.

5:7 Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant, a'r rhai a feddwant, y nos y meddwant.

5:8 Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo a dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm.

5:9 Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

5:10 Yr hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag a wnelom ai