Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1131

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.

5:11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.

5:12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio,

5:13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.

5:14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

5:15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.

5:16 Byddwch lawen yn wastadol.

5:17 Gweddiwch yn ddi-baid.

5:18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.

5:19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd.

5:20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau.

5:21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.

5:22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.

5:23 A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.

5:24 Ffyddlon yw'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.

5:25 O frodyr, gweddiwch drosom.

5:26 Anerchwch yr holl frodyr a chusan sancteiddiol.

5:27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.

5:28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.

Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.


Ail Epistol Paul yr Apostol at y

Thessaloniaid.

PENNOD 1

1:1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist:

1:2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi with Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

1:3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;

1:4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:

1:5 Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.

1:6 Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi,

1:7 Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol,

1:8 A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

1:9 Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;

1:10 Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.

1:11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch,