Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1135

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan;rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagi diafol.

3:8 Rhaid i'r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa;

3:9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

3:10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd.

3:11 Y mae'n rhaid i'w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth.

3:12 Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda.

3:13 Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.

3:14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder:

3:15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae'n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.

3:16 Ac yn ddi-ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.


PENNOD 4

4:1 Ac y mae'r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid;

4:2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth;

4:3 Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i'w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a'r rhai a adwaenant y gwirionedd.

4:4 Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i'w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch.

4:5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.

4:6 Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau'r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.

4:7 Eithr gad heibio halogedig a gwrachaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb.

4:8 Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r i bywyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.

4:9 Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad.

4:10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid.

4:11 Y pethau hyn gorchymyn a dysg.

4:12 Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb.

4:13 Hyd oni ddelwyf, glyn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu.

4:14 Nac esgeulusa'r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo'r henuriaeth.

4:15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.

4:16 Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a'th gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat.


PENNOD 5

5:1 Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr;

5:2 Yr hen wragedd, megis mam-