Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1136

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

au; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb.

5:3 Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon.

5:4 Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.

5:5 Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.

5:6 Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.

5:7 A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.

5:8 Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di-ffydd.

5:9 Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,

5:10 Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

5:11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;

5:12 Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.

5:13 A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.

5:14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi.

5:15 Canys y mae rhai eisoes wedi gwyro ar ôl Satan.

5:16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.

5:17 Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth.

5:18 Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dymu’r yd:ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.

5:19 Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.

5:20 Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.

5:21 Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.

5:22 Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

5:23 Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a’th fynych wendid.

5:24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.

5:25 Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen, a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.


PENNOD 6

6:1 Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef.

6:2 A’r rhai sydd a meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora.

6:3 Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac a’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb;

6:4 Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod,

6:5 Cyndyn ddadlau dynion