Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1138

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd.

1:6 Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffau i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.

1:7 Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.

1:8 Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd a’r efengyl, yn ôl nerth Duw;

1:9 Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd a galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau’r byd,

1:10 Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl:

1:11 I’r hon y’m gosodwyd i yn breg-ethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd.

1:12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais, ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.

1:13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.

1:14 Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

1:15 Ti a wyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.

1:16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dy Onesifforus; canys efe a’m llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i:

1:17 Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd.

1:18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.


PENNOD 2

2:1 Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.

2:2 A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd.

2:3 Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist.

2:4 Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr.

2:5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon.

2:6 Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau.

2:7 Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth.

2:8 Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i:

2:9 Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr, eithr gair Duw nis rhwymir.

2:10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol.

2:11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: ‘.

2:12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau:

2:13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun.

2:14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.

2:15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.