Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1139

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2:16 Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnant i fwy o annuwioldeb.

2:17 A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus;

2:18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.

2:19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.

2:20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd, a rhai i barch, a rhai i amarch.

2:21 Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.

2:22 Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.

2:23 Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau.

2:24 Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar,

2:25 Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd,

2:26 A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagi diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.


PENNOD 3

3:1 Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf.

3:2 Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol,

3:3 Yn angharedig, yn torri cyfamod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i’r rhai da,

3:4 Ynfradwyr,ynwaedwyllt,yn-chwydd-edig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw;

3:5 A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a’r rhai hyn gochel di.

3:6 Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau,

3:7 Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd.

3:8 Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd.

3:9 Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau.

3:10 Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd hirymaros, cariad, amynedd,

3:11 Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra, pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd.

3:12 Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir.

3:13 Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo.

3:14 Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist,

3:15 Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.

3:16 Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder:

3:17 Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.