Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1140

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD 4

4:1 Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas;

4:2 Pregetha’r gair, bydd daer mewn amser, allan o amser, argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth.

4:3 Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus, eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino,

4:4 Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.

4:5 Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.

4:6 Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd.

4:7 Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd.

4:8 O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef.

4:9 Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd:

4:10 Canys Demas a’m gadawodd, gan garu’r byd presennol, ac a aeth ymaith i Thesalonica, Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.

4:11 Luc yn unig sydd gyda mi. Cymer Marc, a dwg gyda thi: canys buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth.

4:12 Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus.

4:13 Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a’r llyfrau, yn enwedig y memrwn.

4:14 Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd:

4:15 Yr hwn hefyd gochel dithau, canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.

4:16 Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a’m gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt.

4:17 Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a’m nerthodd, fel trwof fi y byddai’r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai’r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.

4:18 A’r Arglwydd a’m gwared i rhag pob gweithred ddrwg, ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol: i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

4:19 Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.

4:20 Erastus a arhosodd yng Nghorinth: ond Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf.

4:21 Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gaeaf. Y mae Eubulus yn dy annerch, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a’r brodyr oll.

4:22 Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’th ysbryd di. Gras fyddo gyda chwi. Amen.

Yr ail epistol at Timotheus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys yr Effesiaid, a ysgrifennwyd o Rufain, pan ddygwyd Paul yr ail waith gerbron Cesar Nero.