24:17 A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
24:18 A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.
24:19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:
24:20 Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.
24:21 A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.
24:22 Bydded un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich Duw.
24:23 II A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
PENNOD 25 25:1 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,
25:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i’r ARGLWYDD.
25:3 Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.
25:4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir, sef Saboth i’r ARGLWYDD: na heua dy faes, ac na thor dy winllan.
25:5 Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist; bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir.
25:6 Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch; ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi.
25:7 I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.
25:8 Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.
25:9 Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad.
25:10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu.
25:11 Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd.
25:12 Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi.
25:13 O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth.
25:14 Pan werthech ddim i’th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd.
25:15 Pryn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.
25:16 Yn ôl amidra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.
25:17 Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy DDUW: canys myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich Duw chwi.
25:18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel.
25:19 Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel.
25:20 Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:
25:21 Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.
25:22 A’r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwytewch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, bwytewch o’r hen.
25:23 A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi.