Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13 A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14 A rhoddant arni ei holl lestri, â’r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, ïe, holl lestri yr allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15 Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwyno y gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cyssegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16 ¶ Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a’r arogl-darth peraidd, a’r bwyd-offrwrn gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a’r hyn oll fydd ynddo, yn y cyssegr, ac yn ei ddodrefn.

17 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

18 Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19 Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20 Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio yr hyn sydd gyssegredig, rhag marw o honynt.

21 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22 Cymmer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24 Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25 Sef dwyn o honynt lenni’r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei lèn dô ef, a’r tô o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod,

26 A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.

27 Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i’w cadw.

28 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29 ¶ A meibion Merari, trwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt;

30 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31 A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a’i farrau, a’i golofnau, a’i forteisiau,

32 A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.

33 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

34 ¶ A rhifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid y gynnulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau:

35 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

36 A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.

37 Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

38 Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu. tadau;

39 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod: