Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dïosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri y felldith.

19 A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gwr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid gyd âg arall yn lle dy wr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri y felldith.

20 Ond os gŵyraist ti oddi wrth dy wr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heb law dy wr dy hun:

21 (Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig,) Rhodded yr Arglwydd dydi yn felldith ac yn llw ym mysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;

22 Ac aed y dwfr melldigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.

23 Ac ysgrifened yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw.

24 A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri y felldith: ac aed y dwfr sydd yn peri y felldith i’w mewn hi, yn chwerw.

25 A chymmered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ef ar yr allor.

26 A chymmered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr.

27 Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ym mysg ei phobl.

28 Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddïhangol, ac a blanta.

29 Dyma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig at arall yn lle ei gwr, ac ymhalogi:

30 Neu os daw ar wr wŷn eiddigedd, a dal o hono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ol y gyfraith hon.

31 A’r gwr fydd dïeuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.


Pennod VI.

1 Cyfraith y Nazaread. 24 Y dull y bendithir y bobl.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r Arglwydd:

3 Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion.

4 Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen.

5 Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6 Holl ddyddiau ei ymneillduaeth i’r Arglwydd, na ddeued at gorff marw.

7 Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nazareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8 Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd.

9 Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymmwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.

10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr oifeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12 A neilldued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef.

13 ¶ A dyma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner dyddiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

14 A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hespwrn blwydd,