Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aipht, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd,

2 Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.

3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymmor: yn ol ei holl ddeddfau, ac yn ol ei holl ddefodau, y cedwch ef.

4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasc.

5 A chadwasant y Pasc ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

6 ¶ Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasc ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant ger bron Moses, a cher bron Aaron, ar y dydd hwnnw.

7 A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorph dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymmu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymmor ym mysg meibion Israel?

8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchymynno yr Arglwydd o’ch plegid.

9 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorph marw, neu neb o honoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, etto cadwed Basc i’r Arglwydd.

11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail mis, yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwyttânt ef.

12 Na weddillant ddim o hono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ol holl ddeddf y Pasc y cadwant ef.

13 A’r gwr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasc, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor: ei bechod a ddwg y gwr hwnnw.

14 A phan ymdeithio dïeithr gyd â chwi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasc a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dïeithr ac i’r un fydd a’i enedigaeth o’r wlad.

15 ¶ Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmmwl a gauodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.

16 Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmmwl a gauai am dano y dydd, a’r gwelediad tân y nos.

17 A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel.

18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll.

19 A phan drigai y cwmmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynent.

20 Ac os byddai y cwmmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynent.

21 Hefyd os byddai y cwmmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmmwl y bore, hwythau a symmudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai y cwmmwl, yna y cychwynent.

22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai y cwmmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynent: ond pan godai efe, y cychwynent.

23 Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ol gair yr Arglwydd trwy law Moses.


Pennod X.

1 Beth a wneid â’r udgyrn arian. 11 Yr Israeliaid yn symmudo o Sinai i Paran. 14 Trefn eu cerddediad hwy. 29 Moses yn attolwg ar Hobab nad ymadawai â hwynt. 33 Bendith Moses wrth symmudo a gorphwyso o’r arch.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gwna i ti ddau udgorn arian, yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynnulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn.