Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynnulleidfa attat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

4 Ond os âg un y canant; yna y tywysogion, sef pennaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant.

5 Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dwyrain, a gychwynant.

6 Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dehau, a gychwynant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.

7 Ac wrth alw ynghyd y gynnulleidfa, cenwch yr udgyrn; ond na chenwch larwm.

8 A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr udgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau.

9 Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymmwr a’ch gorthrymmo chwi; cenwch larwm mewn udgyrn: yna y coffêir chwi ger bron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.

10 Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechreu eich misoedd, y cenwch ar yr udgyrn uwch ben eich offrymmau poeth, ac uwch ben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

11 ¶ A bu yn yr ail flwyddyn, sef yr ail mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.

12 A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmmwl a arhosodd yn anialwch Paran.

13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.

14 ¶ Ac yn gyntaf y cychwynodd llumman gwersyll meibion Judah yn ol eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.

15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.

16 Ac ar lu llwyth meibion Zabulon, Elïab mab Helon.

17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.

18 ¶ Yna y cychwynodd llumman gwersyll Reuben yn ol eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedëur.

19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisàdai.

20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Elïasaph mab Deuel.

21 A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cyssegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.

22 ¶ Yna llumman gwersyll meibion Ephraim a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud.

23 Ac ar lu llwyth meibion Manasseh, Gamaliel mab Pedasur.

24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.

25 ¶ Yna llumman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahïeser mab Ammisàdai.

26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagïel mab Ocran.

27 Ac ar lu llwyth meibion Naphtali, Ahira mab Enan.

28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ol eu lluoedd, pan gychwynasant.

29 ¶ A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyd â ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.

30 Dywedodd yntau wrtho, Nid âf ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr âf.

31 Ac efe a ddywedodd, Na âd ni, attolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni.

32 A phan ddelych gyd â ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.

33 ¶ A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orphwysfa iddynt.

34 A chwmmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll.

35 A hefyd pan gychwynai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod,