Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARGLWYDD, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseiog o’th flaen.

º36 A phan orffwysai hi, y dywedai efe Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiwn mil oedd Israel.

PENNOD 11

11:1 A’R bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr ARGLWYDD: a chlywodd yr ARGLWYDD hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr ARGLWYDD a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gŵr y gwersyll.

11:2 A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD; a’r tân a ddiffoddodd.

11:3 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dan yr ARGLWYDD yn eu mysg hwy.

11:4 A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta?

11:5 Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yf Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg:

11:6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.

11:7 A’r manna hwnnw oedd fel had cor¬iander, a’i liw fel lliw bdeliwm.

11:8 Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant y deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir.

11:9 A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.

11:10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr ARGLWYDD yn fawr; a drwg oedd gan Moses.

11:11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr ARGLWYDD, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?

11:12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau?

11:13 O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta.

11:14 Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.

11:15 Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

11:16 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.

11:17 Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.

11:18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chwi a fwytewch.

11:19 Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

11:20 Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r ARGLWYDD yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddy¬wedyd, Paham y daethom allan o’r Aifft?

11:21 A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau.

11:22 Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y mor a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?

11:23 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr ARGLWYDD? yr awr hon y cei di