weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.
11:24 A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henur¬iaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell.
11:25 Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.
11:26 A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.
11:27 A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll.
11:28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd, Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.
11:29 A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, a rhoddi o’r ARGLWYDD ei ysbryd arnynt!
11:30 A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.
11:31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr ARGLWYDD, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.
11:32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.
11:33 A’r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl, a’r ARGLWYDD a drawodd y bobl a phla mawr iawn.
11:34 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth-Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.
11:35 O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.
PENNOD 12
º1 LLEFARODD Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. d
º2 A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr ARGLWYDD? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r ARGLWYDD a glybu hynny.
º3 A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear.
º4 A dywedodd yr ARGLWYDD yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd.
º5 Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau.
º6 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr ARGLWYDD yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.
º7 Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. .s,
º8 Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr ARGLWYDD; paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
º9 A digofaint yr ARGLWYDD a enynnodd yn eu herbyn ftwynt; ac efe a aeth ymaith.
º10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahan-glwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus.
º11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom.
º12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam.
º13 A Moses a waeddodd ar yr AR-