Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymmanfa sanctaidd: na wnewch ddim caeth-waith ynddo.

19 Ond offrymmwch yn aberth tanllyd, ac yn boeth-offrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuaingc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffeith-gwbl.

20 Eu bwyd-offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew: tair degfed ran gyd â bustach, a dwy ddegfed ran gyd â hwrdd, a offrymmwch chwi;

21 Bob yn ddegfed ran yr offrymmwch gyd â phob oen, o’r saith oen:

22 Ac un bwch yn bech-aberth, i wneuthur cymmod drosoch.

23 Heb law poeth-offrwm y bore, yr hwn sydd boeth-offrwm gwastadol, yr offrymmwch hyn.

24 Fel hyn yr offrymmwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heb law y poeth-offrwm gwastadol yr offrymmir ef, a’i ddïod-offrwm.

25 Ac ar y seithfed dydd cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch.

26 ¶ Ac ar ddydd eich blaen-ffrwythau, pan offrymmoch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch.

27 Ond offrymmwch ddau fustach ieuaingc, un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boeth-offrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

28 A bydded eu bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; tair degfed ran gyd â phob bustach, dwy ddegfed ran gyd â phob hwrdd;

29 Bob yn ddegfed ran gyd â phob oen, o’r saith oen:

30 Un bwch geifr, i wneuthur cymmod drosoch.

31 Heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, yr offrymmwch hyn, (byddant gennych yn berffeith-gwbl,) ynghyd â’u dïod-offrwm.


Pennod XXIX.

1 Yr offrymmau ar wyl yr udgyrn, 7 ar y dydd y cystuddiant eu heneidiau, 13 ac ar wyth niwrnod gwyl y pebyll.

Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd; dim caeth-waith nis gwnewch: dydd i ganu udgyrn fydd efe i chwi.

2 Ac offrymmwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach ieuangc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl:

3 A’u bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; tair degfed ran gyd â bustach, a dwy ddegfed ran gyd â hwrdd;

4 Ac un ddegfed ran gyd â phob oen, o’r saith oen:

5 Ac un bwch geifr yn bech-aberth, i wneuthur cymmod drosoch:

6 Heb law poeth-offrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

7 ¶ Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

8 Ond offrymmwch boeth-offrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuangc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffeith-gwbl gennych.

9 A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, tair degfed ran gyd â bustach, a dwy ddegfed ran gyd â hwrdd;

10 Bob yn ddegfed ran gyd â phob oen, o’r saith oen:

11 Un bwch geifr yn bech-aberth; heb law pech-aberth y cymmod, a’r poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u dïod-offrymmau.

12 ¶ Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch; eithr cedwch wyl i’r Arglwydd saith niwrnod.

13 Ac offrymmwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffeith-gwbl.

14 A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; tair degfed ran gyd â phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyd â phob hwrdd, o’r ddau hwrdd;

15 A phob yn ddegfed ran gyd â phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg:

16 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.