Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

17 ¶ Ac ar yr ail ddydd yr offrymmwch ddeuddeng mustach ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

18 A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

19 Ac un bwch geifr, yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm a’u dïod-offrymmau.

20 ¶ Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl:

21 A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a ehyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

22 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

23 ¶ Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl:

24 Eu bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

25 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

26 ¶ Ac ar y pummed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

27 A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod;

28 Ac un bwch yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

29 ¶ Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

30 A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

31 Ac un bwch yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

32 ¶ Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

33 A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth eu defod:

34 Ac un bwch yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

35 ¶ Ar yr wythfed dydd, uchel wyl fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch ynddo.

36 Ond offrymmwch offrwm poeth-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

37 Eu bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustach, a chyd â’r hwrdd, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

38 Ac un bwch yn bech-aberth: heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

39 Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heb law eich addunedau, a’ch offrymmau gwirfodd, gyd â’ch offrymmau poeth, a’ch offrymmau bwyd, a’ch offrymmau dïod, a’ch offrymmau hedd.

40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.


Pennod XXX.

1 Na ellir torri addunedau: 3 ond adduned morwyn ieuangc, 6 gwraig ŵriog, 9 gwraig weddw, a’r ysgaredig.

A llefarodd Moses wrth bennaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd.

2 Os adduneda gwr adduned i’r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ol yr hyn oll a ddêl allan o’i enau.

3 Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd, a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuengctid;

4 A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.

5 Ond os ei thad a bâr iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau, a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddeu yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.

6 Ac os hi oedd yn eiddo gwr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;

7 A chlywed o’i gwr, a thewi wrthi