y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.
8 Ond os ei gwr, ar y dydd y clywo, a bâr iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a’r Arglwydd a faddeu iddi.
9 Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.
10 Ond os yn nhŷ ei gwr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;
11 A chlywed o’i gwr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
12 Ond os ei gwr gan ddiddymmu a’u diddymma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gwr a’u diddymmodd hwynt; a’r Arglwydd a faddeu iddi.
13 Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio yr enaid, ei gwr a’i cadarnhâ, a’i gwr a’i diddymma.
14 Ac os ei gwr gan dewi a daw wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.
15 Ac os efe gan ddiddymmu a’u diddymma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.
16 Dyma y deddfau a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gwr a’i wraig, a rhwng tad a’i ferch, yn ei hieuengctid yn nhŷ ei thad.
Pennod XXXI.
1 Yspeilio y Midianiaid, a lladd Balaam. 13 Moses yn ddig wrth y swyddogion, am gadw y gwragedd yn fyw. 19 Pa fodd y glanhêir y milwyr, a’u carcharorion, a’u hysglyfaeth. 25 Y modd y mae rhannu yr yspail. 48 Yr offrwm ewyllysgar y drysordy yr Arglwydd.
A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Dïal feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.
3 A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch o honoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dïal yr Arglwydd ar Midian.
4 Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel.
5 A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel.
6 Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cyssegr, a’r udgyrn i udganu yn ei law.
7 A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwrryw.
8 Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyd â’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pùm brenhin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf.
9 Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a yspeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl ddâ hwynt, a’u holl olud hwynt.
10 Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân.
11 A chymmerasant yr holl yspail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.
12 Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleazar yr offeiriad, ac at gynnulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’r caffaeliad, a’r yspail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
13 ¶ Yna Moses ac Eleazar yr offeiriad, a holl bennaduriaid y gynnulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll.
14 A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteniaid y miloedd, a chapteniaid y cantoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.
15 A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?
16 Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla y’nghynnulleidfa yr Arglwydd.
17 Am hynny lleddwch yn awr bob gwrryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gwr, trwy orwedd gyd âg ef.
18 A phob plentyn o’r benywaid