PENNOD 35 º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddy¬wedyd,
º2 Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i’r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasuedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch.
º3 A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt, a’u pentrefol feysydd fyddant i’w hunil’ciliaid, ac i’w cyfoeth, ac i’w holl fwysttilod.
º4 A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.
º5 A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua’r deau ddwy fil o gufyddau, a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau; a’r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd. ;
º6 Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno : a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.,
º7 Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a’u pentrefol feysydd.
º8 A’r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr arni eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd.
º9 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º10 Llefara wrth feibion Israel, a dywed’ wrthynt. Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;
º11 Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.
º12 A’r dinasoedd fyddant i chwi yn, noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.
º13 Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.
º14 Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddoxien, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.
º15 I feibion Israel, ac i’r dieithr, ac i’l; ymdeitliydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo
pob un alatfdti ddyn m6wfi’a&iryfusedd, fEbi yno.
º16 Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: Sadder y llawruddiog yn farw.
º17 Ac os & charreg law, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, y trawodd ef, a’i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.
º18 Neu os efe a’i trawodd ef & llawffon, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
º19 Dialydd y gwaed a ladd y llaw¬ruddiog: pan gyfarfyddo ag ef, efe a’i Badd ef.
º20 Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;
º21 Neu ei daro ef a’i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a’i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llof¬rudd, pan gyfarfyddo ag ef.
º22 Ond os yn ddisymwth, heb atanas-ira, y gwthia efe ef, neu y teifl ato ufi offeryn yn ddifwriad; "
º23 Neu ei daro ef a charreg, y byddai efe farw o’i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:
º24 Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.
º25 Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd O law dialydd y gwaed, a throed y gyn¬ulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd a’r olcw cysegredig.
º26 Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;
º27 A’i gael o ddialydd y gwaed all-