Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6:1 A dymar’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:

6:2 Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.

6:3 Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd ARGLWYDD DDUW dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

6:4 Clyw, O Israel; yr ARGLWYDD ein Duw ni sydd un ARGLWYDD.

6:5 câr di gan hynny yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.

6:6 A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.

6:7 A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.

6:8 A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.

6:9 Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.

6:10 Ac fe a dderfydd, wedi i’r ARGLWYDD dy DDUW dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,

6:11 A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi iti fwyta, a’th ddigoni;

6:12 Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr ARGLWYDD, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

6:13 Yr ARGLWYDD dy DDUW a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi.

6:14 Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi:

6:15 (Oblegid Duw eiddigus yw yr AR¬GLWYDD dy DDUW yn dy fysg di,) rhag i lid yr ARGLWYDD dy DDUW ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

6:16 Na themtiwch yr ARGLWYDD eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa.

6:17 Gan gadw cedwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchroynnodd efe iti.

6:18 A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr ARGLWYDD: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr ARGLWYDD i’th dadau di;

6:19 Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

6:20 Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmyn¬nodd yr ARGLWYDD ein Duw i chwi?

6:21 Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r AR¬GLWYDD a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn.

6:22 Rhoddes yr ARGLWYDD hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni;

6:23 Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni.

6:24 A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr ARGLWYDD ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.

6:25 A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr ARGLWYDD ein Dew, fel y gorchmynnodd efe i ni.

PENNOD 7

7:1 Pan y’th ddygo yr ARGLWYDD dy DDUW i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid,