Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dyfroedd oddi tan y ddaear:

5:9 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf DDUW eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;

5:10 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

5:11 Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

5:12 Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr AR¬GLWYDD dy DDUW i ti.

5:13 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

5:14 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.

5:15 A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r AR¬GLWYDD dy DDUW allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti gadw dydd y Saboth.

5:16 Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.

5:17 Na ladd.

5:18 Ac na wna odineb.

5:19 Ac na ladrata.

5:20 Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

5:21 Ac na chwennych wraig dy gymyd¬og, ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.

5:22 Y geiriau hyn a lefarodd yr AR¬GLWYDD wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes ataf fi.

5:23 A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi;

5:24 Ac a ddywedasoch, Wele, yr ARGLWYDD ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o DDUW wrth ddyn, a byw ohono.

5:25 Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw mwyach, marw a wnawn.

5:26 Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?

5:27 Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr AR¬GLWYDD ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny.

5:28 A’r ARGLWYDD a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.

5:29 O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol!

5:30 Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll.

5:31 Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi.

5:32 Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy.

5:33 Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.


PENNOD 6