anghofia gyfamodi dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.
4:32 Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:
4:33 A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?
4:34 A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid?
4:35 Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, nad oes neb arall ond efe.
4:36 O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.
4:37 Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, a’i fawr allu, allan o’r Aifft:
4:38 I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw.
4:39 Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall.
4:40 Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti byth.
4:41 Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul;
4:42 I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw:
4:43 Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan, y Manassiaid.
4:44 A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel;
4:45 Dyma ‘r tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aifft:
4:46 Tu yma i’r Iorddonen; yn y dyffryn ar gyfer Bethpeor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aifft:
4:47 Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul,
4:48 O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw Hermon;
4:49 A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth-Pisga.
PENNOD 5
5:1 A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
5:2 Yr ARGLWYDD ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb.
5:3 Nid a’n tadau ni y gwnaeth yr AR¬GLWYDD y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw.
5:4 Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr ARGLWYDD a chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
5:5 (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi, i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i’r mynydd,) gan ddywedyd,
5:6 Yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
5:7 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
5:8 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y