Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:9 Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion:

4:10 Sef y dydd y sefaist gerbron yr AR¬GLWYDD dy DDUW yn Horeb, pan ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.

4:11 A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew.

4:12 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais.

4:13 Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.

4:14 A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.

4:15 Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)

4:16 Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd; un ddelw, llun gwryw neu fenyw,

4:17 Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,

4:18 Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear;

4:19 Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr ARGLWYDD dy DDUW i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.

4:20 Ond yr ARGLWYDD a’ch cymerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn, o’r Ain’t, i fed iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.

4:21 A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.

4:22 Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.

4:23 Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr ARGLWYDD eich, Duw, yr hwn a amododd efe a chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

4:24 Oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd dan ysol, a Duw eiddigus.

4:25 Pan genhedlych feibion, ac wyrioni a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW i’w ddigio ef;

4:26 Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.

4:27 A’r ARGLWYDD a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg.yr ARGLWYDD chwi atynt:

4:28 Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt, ac nid aroglant.

4:29 Os oddi yno y ceisi yr ARGLWYDD dy DDUW, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

4:30 Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef:

4:31 (Oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid