Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth-Jair, hyd y dydd hwn.

3:15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead.

3:16 Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:

3:17 Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth-Pisga, tua’r dwyrain.

3:18 Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr AR¬GLWYDD eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.

3:19 Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o ani¬feiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinas¬oedd a roddais i chwi.

3:20 Hyd pan wnelo’r ARGLWYDD i’ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiamiu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.

3:21 1 Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i’r ddau frenin hyn: felly y gwna’r ARGLWYDD i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt.

3:22 Nac ofnwch hwynt: oblegid yr ARGLWYDD eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi.

3:23 Ac erfyniais ar yr ARGLWYDD yr amser hwnnw, gan ddywedyd,

3:24 O ARGLWYDD DDUW, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa DDUW sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di?

3:25 Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus.

3:26 Ond yr ARGLWYDD a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr ARGLWYDD wrthyf, Digon yw hynny i ti, na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.

3:27 Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin, a’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, ac edrych arni a’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.

3:28 Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.

3:29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Bethpeor.


PENNOD 4

4:1 Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad, y mae ARGLWYDD DDUW eich tadau yn ei rhoddi i chwi.

4:2 Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.

4:3 Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD am Baal-peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal-peor, yr ARGLWYDD dy DDUW a’i difethodd ef o’th blith di.

4:4 Ond chwi y rhai oeddech yn glynu with yr ARGLWYDD eich Duw, byw ydych heddiw oll.

4:5 Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD fy Nuw i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu,

4:6 Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.

4:7 Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati, fel yr ARGLWYDD ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno?

4:8 A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi?