anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, a geiriau heddwch, gan ddy¬wedyd,
2:27 Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i’r tu deau nac i’r tu aswy.
2:28 Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;
2:29 (Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moab¬iaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoddi i ni.
2:30 Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr AR¬GLWYDD dy DDUW a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir.
2:31 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.
2:32 Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel yn Jahas.
2:33 Ond yr ARGLWYDD ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen; ac m a’i trawsom ef, a’i feibion, a’i holl bobl:
2:34 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill.
2:35 Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom.
2:36 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o’r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddihangodd rhagom: yr ARGLWYDD ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni.
2:37 Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl leoedd a waharddasai yr ARGLWYDD ein Duw i ni.
PENNOD 3
3:1 YNA y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei.
3:2 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
3:3 Felly yr ARGLWYDD ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill:
3:4 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.
3:5 Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn.
3:6 A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant.
3:7 Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.
3:8 A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;
3:9 (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;)
3:10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
3:11 Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.
3:12 A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid.
3:13 A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri.