Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD 2

2:1 Yna y troesom, ac yr aethom i’r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.

2:2 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth¬yf, gan ddywedyd,

2:3 Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd.

2:4 A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhag¬och: ond ymgedwch yn ddyfal.

2:5 Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymaint a lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;

2:6 Prynwch fwyd ganddynt am Brian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch,

2:7 Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.

2:8 Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion-Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.

2:9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth.

2:10 (Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;

2:11 Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid.

2:12 Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a’u difethasant o’u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr ARGLWYDD iddynt.)

2:13 Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared.

2:14 A’r dyddiau y cerddasom o Cades-Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt.

2:15 Canys llaw yr ARGLWYDD ydoedd yn eu herbyn hwynt, i’w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.

2:16 A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd,

2:17 Lefaru o’r ARGLWYDD wrthyf, gan ddywedyd,

2:18 Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:

2:19 A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.

2:20 Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o’r blaen; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Samsummiaid:

2:21 Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r ARGLWYDD a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.

2:22 Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;

2:23 Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a’u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)

2:24 Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.

2:25 Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgant rhagot ti.

2:26 A mi a anfonais genhadau o