Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1:21 Wele, yr ARGLWYDD dy DDUW a roddes y wlad o’th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd AR¬GLWYDD DDUW dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.

1:22 A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd-ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

1:23 A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth.

1:24 A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef.

1:25 Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoddi i ni.

1:26 Er hynny ni fynnech fyned i fyny, ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr ARGLWYDD eich Duw.

1:27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasáu o’r AR¬GLWYDD nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha.

1:28 I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a’n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.

1:29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.

1:30 Yr ARGLWYDD eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ô1 yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;

1:31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.

1:32 Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr ARGLWYDD eich Duw,

1:33 Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl.

1:34 A chlybu yr ARGLWYDD lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,

1:35 Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi;

1:36 Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a’i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar âl yr ARGLWYDD.

1:37 Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr ARGLWYDD o’ch plegid chwi, gan ddy¬wedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.

1:38 Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.

1:39 Eich plant hefyd, y rhai y dywedas¬och y byddent yn ysbail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt-hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchenogant hi.

1:40 Trowch chwithau, ac ewch i’r anial¬wch ar hyd ffordd y môr coch.

1:41 Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr AR¬GLWYDD: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ô1 yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd.

1:42 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion.

1:43 Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr ARGLWYDD; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i’r mynydd.

1:44 A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma.

1:45 A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr ARGLWYDD: ond ni wrandawodd yr ARGLWYDD ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.

1:46 Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen.