Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PUMED LLYFR MOSES, YR HWN A ELWIR DEUTERONOMIUM


PENNOD 1

1:1 Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab.

1:2 (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades-Barnea.)

1:3 A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo ei ddywedyd wrthynt;

1:4 Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;

1:5 O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon, gan ddywedyd,

1:6 Yr ARGLWYDD ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:

1:7 Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch, ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.

1:8 Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr ARGLWYDD i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hôl hwynt.

1:9 A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:

1:10 Yr ARGLWYDD eich Duw a’ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.

1:11 (ARGLWYDD DDUW eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a’ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!)

1:12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi?

1:13 Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.

1:14 Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.

1:15 Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

1:16 A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr, a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd, ac a’r dieithr sydd gydag ef.

1:17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a’i gwrandawaf.

1:18 Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.

1:19 A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades-Barnea.

1:20 A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roddi i ni.