16 A’r bwa a fydd yn y cwmmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tragywyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
17 A Duw a ddywedodd wrth Noah, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
18 ¶ A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Japheth; a Cham oedd dad Canaan.
19 Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20 A Noah a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21 Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd y’nghanol ei babell.
22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.
23 A chymmerodd Sem a Japheth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
24 A Noah a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25 Ac efe a ddywedodd, Melldigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.
26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27 Duw a helaetha ar Japheth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28 ¶ A Noah a fu fyw wedi y diluw dri chàn mlynedd a deng mlynedd a deugain.
29 Felly holl ddyddiau Noah oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.
Pennod X.
1 Cenhedlaethau Noah. 2 Meibion Japheth. 6 Meibion Cham. 8 Nimrod y brenhin cyntaf. 21 Meibion Sem.
A dyma genhedlaethau meibion Noah: Sem, Cham, a Japheth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi y diluw.
2 ¶ Meibion Japheth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riphath, a Thogarmah.
4 A meibion Jafan; Elisah, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5 O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6 ¶ A meibion Cham oedd Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.
7 A meibion Cus; Seba, a Hafilah, a Sabta, a Raamah, a Sabteca: a meibion Raamah; Seba, a Dedan.
8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.
10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, y’ngwlad Sinar.
11 O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefeh, a dinas Rehoboth, a Chalah,
12 A Resen, rhwng Ninefeh a Chalah; honno sydd ddinas fawr.
13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim,
14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chaphtorim.
15 ¶ Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
16 A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad,
17 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad,
18 A’r Arfadiad a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gazah; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorrah, ac Admah, a Seboim, hyd Lesah.
20 Dyma feibion Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21 ¶ I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Japheth yr hynaf.
22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah a genhedlodd Heber.
25 Ac i Heber y ganwyd dau o