Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feibion: enw un oedd Peleg; o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.

26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleph, a Hasarmafeth, a Jerah,

27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Diclah,

28 Obal hefyd, ac Abimael, a Seba,

29 Ophir hefyd, a Hafilah, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.

30 A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Sephar, mynydd y dwyrain.

31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.

32 Dyma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi y diluw.

Pennod XI.

1 Un iaith yn y byd. 3 Adeiladaeth Babel. 5 Cymmysgu yr ieithoedd. 10 Cenhedlaethau Sem. 27 Cenhedlaethau Terah tad Abram. 31 Terah yn myned o Ur i Haran.

A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.

2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.

3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.

5 A’r Arglwydd a ddisgynodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion.

6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur.

7 Deuwch, disgynwn, a chymmysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.

8 Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant âg adeiladu y ddinas.

9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymmysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

10 ¶ Dyma genhedlaethau Sem: Sem ydoedd fab càn mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi y diluw.

11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad, bùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

12 Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Selah.

13 Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah, dair o flynyddoedd a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

14 Selah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

15 A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.

17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

19 A Pheleg a fu farw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Terah.

25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Terah, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26 Terah hefyd a fu fyw ddeng