Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27 ¶ A dyma genhedlaethau Terah: Terah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.

28 A Haran a fu farw o flaen Terah ei dad, y’ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.

29 Yna y cymmerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milcah, merch Haran, tad Milcah, a thad Iscah.

30 A Sarai oedd ammhlantadwy, heb blentyn iddi.

31 A Therah a gymmerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.

32 A dyddiau Tera oedd bùm mlynedd a dau càn mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.

Pennod XII.

1 Duw yn galw Abram, ac yn ei fendithio ef trwy addewid o Grist. 4 Yntau yn myned gyd â Lot o Haran. 6 Yn tramwy trwy wlad Canaan, 7 yr hon a addewir iddo ef mewn gweledigaeth. 10 Newyn yn ei yrru ef i’r Aipht. 11 Ofn yn peri iddo ef ddywedyd mai ei chwaer oedd ei wraig. 14 Pharaoh, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan bläau i’w rhoddi hi yn ei hol.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.

2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.

3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felldithwyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.

4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gyd âg ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thri ugain pan aeth efe allan o Haran.

5 Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a ynnillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.

6 ¶ Ac Abram a dramwyodd trwy y tir hyd le Sichem, hyd wastadedd Moreh: a’r Canaanead oedd yn y wlad y pryd hwnnw.

7 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.

8 Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynodd ei babell, gan adael Bethel tu a’r gorllewin, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.

9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tu a’r dehau.

10 ¶ Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aipht, i ymdeithio yno, am drymhâu o’r newyn yn y wlad.

11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aipht, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:

12 A phan welo yr Aiphtiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma ei wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw.

13 Dywed, attolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.

14 ¶ A bu, pan ddaeth Abram i’r Aipht, i’r Aiphtiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.

15 A thywysogion Pharaoh a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharaoh: a’r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharaoh.

16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid a gwartheg, ac asynod, a gweision, a morwynion, ac asenod, a chamelod.

17 A’r Arglwydd a darawodd Pharaoh a’i dŷ â phläau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

18 A Pharaoh a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?

19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymmer hi, a dos ymaith.

20 A Pharaoh a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.