Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yr AR¬GLWYDD, o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny.

º18 Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;

º19 Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd; a thyn ymaith y drwg o’th fysg.

º20 A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.

º21 Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

PENNOD 20

º1 PAN elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Ain’t.

º2 A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

º3 A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gclynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.

º4 Canys yr ARGLWYDD eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela a’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.

º5 A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd. Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef.

º6 A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.

º7 A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi.

º8 Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant. Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.

º9 A bydded, pan ddarffo i’r llywiawd¬wyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt d ywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.

º10 Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi lleddwch.

º11 A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu.

º12 Ac oni heddycha hi thi, ond gwneuthur rhyfel a thi; yna gwarchae arni hi.

º13 Pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid a min y cleddyf.

º14 Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

º15 Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.

º16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:

º17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt, sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

º18 Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw.

º19 Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i’w gosod yn y gwarchglawdd.

º20 Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel a thi, hyd oni orchfyger hi.