Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

º22 Yr ARGLWYDD a’th dery â darfodedigaeth, ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha.

º23 Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn.

º24 Yr ARGLWYDD a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinistrier.

º25 Yr ARGLWYDD a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.

º26 A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo.

º27 Yr ARGLWYDD a’th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o’r rhai ni ellir dy iachau.

º28 Yr ARGLWYDD a’th dery di ag ynfydrwydd, ac a dallineb, ac â syndod calon.

º29 Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithf iedig byth, ac ni bydd a’th waredo.

º30 Ti a ymgredi a gwraig, a gŵr arall a gydorwedd a hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.

º31 Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd.

º32 Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu r dy law.

º33 Ffrwyth dy dir a’th holl lafar a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser:

º34 A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

º35 Yr ARGLWYDD a’th dery di a chorn-wyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iachau, o wadn dy droed hyd dy gorun.

º36 Yr ARGLWYDD a’th ddwg di, a’th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.

º37 A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, yrnhlith yr holl bob¬loedd y rhai yr arwain yr ARGLWYDD di atynt.

º38 Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a’i hysa.

º39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwyty.

º40 Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni’th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.

º41 Meibion a merched a genhedii, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.

º42 Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

º43 Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.

º44 Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ten, a thi a fyddi yn gynffon.

º45 A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandew-aist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.

º46 A byddant yn arwydd ac yn rhy-feddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.

º47 Oblegid na wasanaethaist yr AR¬GLWYDD dy DDUW mewn llawenydd, ac taewn by&ydwch ‘.oilon, am arnldra pob dini:


º48 Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr ARGLWYDD yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.

º49 Yr ARGLWYDD a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yc hon ni ddeelli ei hiaith;

º50 Cenedl wyneb-galed, yr dion m dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac .ni bydd raslon i’r llanc.