Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º1 A MOSES a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;

º2 Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.

º3 Yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned drosodd o’th flaen di; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen, a thi a’u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a & drosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

º4 A’r ARGLWYDD a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i’w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.

º5 A rhydd yr ARGLWYDD hwynt o’ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orch-mynnais i chwi.

º6 Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofhwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.

º7 A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

º8 A’r ARGLWYDD hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.

º9 A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Left, y rhai a ddygent arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac at holl henuriaid Israel.

º10 A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar wyl y pebyll,

º11 Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.

º12 Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr ARGLWYDD eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;

º13 Ac y byddo i’w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr ARGLWYDD eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

º14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod.

º15 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a’r golofh gwmwl a safodd ar ddrws y babell.

º16 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a but-einiant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.



º17 A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyng-derau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?

º18 Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr.

º19 Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gan hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fd y byddo y gan hon yn dyst i mi yn erbya meibion Israel.

º20 Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy tw i’w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod.

º21 Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygati lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gan hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb eft canys nid anghofir hi o enau ei had efs oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.

º22 A Moses a ysgrifennodd y gan hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel.