º23 Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.
º24 A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;
º25 Yna y gorchmynnodd Moses Ft Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfam* od yr ASGLWYDD, gaft ddywedyd,
º26 Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yi ARGLWYDD eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn.
º27 Canys mi a adwaen dy wrthnysigf rwydd, a’th wargaledrwydd: wele, a myfl eto yn fyw gyda chwi heddiw, gwrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?
º28 Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.
º29 Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydd-a i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef a gweithredoedd eich dwylo.
º30 A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gan hon, hyd eu diwedd hwynt.
PENNOD 32
º1 GWRANDEWCH, y nefoedd, a lle-faraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.
º2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw’: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.
º3 Canys enw yr ARGLWYDD a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni.
º4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.
º5 Y genhedlaeth wyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.
º6 Ai hyn a delwch. i’r ARGLWYDD, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?
º7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th heauriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.
º8 Pan gyfi-annodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel.
º9 Canys rhan yr ARGLWYDD yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.
º10 Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac rrlewn diffeithwch gwag erchyll: arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.
º11 Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd;
º12 Felly yr ARGLWYDD yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieichr gydag ef.
º13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchel-der y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestt;
º14 Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster wyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.
º15 A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
º16 A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; a ffieidd-dra y digiasant ef.
º17 Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.
º18 Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof.
º19 Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched.
º20 Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf