Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.

8:30 Yna Josua a adeiladodd allor i ARGLWYDD DDUW Israel ym mynydd Ebal,

8:31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r ARGLWYDD, ac a aberthasant ebyrth hedd.

8:32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.

8:33 A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, yn gystal yr estron a’r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD o’r blaen fendithio pobl Israel.

8:34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.

8:35 Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.

PENNOD 9 9:1 Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;

9:2 Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.

9:3 A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.

9:4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,

9:5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:

9:6 Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.

9:7 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi?

9:8 A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywed¬odd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

9:9 A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr ARGLWYDD dy DDUW: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft;

9:10 A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.

9:11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.

9:12 Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.

9:13 Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.

9:14 A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr ARGLWYDD.

9:15 Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.

9:16 Ond ymhen y tridiau wedi