Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt wneuthur cyfammod â hwynt, hwy a glywsant mai cymmydogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.

17 A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Chephirah, Beeroth hefyd, a Chiriath-jearim.

18 Ond ni tharawodd meibion Israel mo honynt hwy, oblegid tywysogion y gynnulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a’r holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.

19 A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.

20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, o herwydd y llw a dyngasom wrthynt.

21 A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa,) fel y dywedasai y tywysogion wrthynt.

22 ¶ Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?

23 Yn awr gan hynny melldigedig ydych: ac ni ddïangc un o honoch rhag bod yn gaeth-weision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.

24 A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.

25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.

26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.

27 A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynnulleidfa, ac i allor yr Arglwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.


Pennod X.

5 Pùm brenhin yn rhyfela yn erbyn Gibeon. 7 Josua yn ei hachub hi. 10 Duw yn ymladd yn eu erbyn hwynt â chenllysg. 12 Yr haul a’r lleuad yn sefyll ar air Josua. 18 Cau ar y pùm brenhin mewn ogof. 23 Eu dwyn allan; 24 eu dïystyru, 26 a’u crogi. 28 Gorchfygu saith brenhin ychwaneg. 43 Josua yn dychwelyd i Gilgal.

A phan glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenhin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:

2 Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac o herwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

3 Am hynny Adonisedec brenhin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenhin Hebron, ac at Piram brenhin Jarmuth, ac at Japhia brenhin Lachis, ac at Debir brenhin Eglon, gan ddywedyd,

4 Deuwch i fynu attaf fi, a chynnorthwywch fi, fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

5 Am hynny pùm brenhin yr Amoriaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant i fynu, sef brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, a brenhin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6 ¶ A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thỳn ymaith dy ddwylaw oddi wrth dy weision: tyred i fynu yn fuan attom ni, achub ni hefyd, a chynnorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i’n herbyn ni.

7 Felly Josua a esgynodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gyd âg ef, a’r holl gedyrn nerthol.

8 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.

9 Josua gan hynny a ddaeth yn ddïattreg attynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.

10 A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac