Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

23:14 Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr ARGLWYDD eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.

23:15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw wrthych; felly y dwg yr ARGLWYDD arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

23:16 Pan droseddoch gyfamod yr AR¬GLWYDD eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

PENNOD 24 24:1 A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron Duw.

24:2 A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.

24:3 Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.

24:4 Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft.

24:5 A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,

24:6 Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.

24:7 A phan waeddasant ar yr ARGLWYDD, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.

24:8 A mi a’ch dygais i wlad yr Arnoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi.

24:9 Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melltigo chwi.

24:10 Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.

24:11 A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.

24:12 A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi, a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa.

24:13 A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai. nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.

24:14 Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt